1 A fv ddim ddamwain breiddfyw
2 mor elyn i serchddyn syw
3 Ar gayaf oeraf eiroed
4 hirddv cas yn hyrddio coed
5 Arvthr i grwydr rhwng dwydref
6 Oer o was tad eiry yw ef
7 Ni bv vn na bai anawdd
8 ganthaw ai hawdd cuddiaw cawdd
9 Mewn eiry er i mwyn aros
10 Y rhynn ôd a rhew a nos
11 haws oedd mewn castell celli
12 [110r]ar hafnos i haros hi
13 Gan glywed digrifed ton
14 Y gog las ddigoeg leision
15 An-nhebig mewn coedwig mai
16 A chyffvr oedd o chaffai
17 Rhodio tro treigl annvn
18 Tan fargod to ty evrgvn
19 Pe rhon drannoeth annoethraid
20 Im i chael amme o chaid
21 I dyddyn gweirdy diddos
22 Ofn yn y gayaf nos
23 Na ddigonai chwai chwedlfreg
24 Engyn ar y dynyn deg
25 Glân ymddiddan yddoeddem
26 Glvd gwyn mi a gloywdeg em
27 Gwnaeth fraw frychleidr anghyfrwys
28 A y dychrymn i'm gloywddyn glwys
29 kol gylfinferf goferfwyd
30 Y cyffylog llidiog llwyd
31 Edn brych dilewych liw
32 [110v] O adar gayaf ydiw
33 Modd y gwnaeth nid maeth fymyd
34 wrth ben bagl wrthban bowglyd
35 kychwyn yn braff i drafferth
36 Adain bol oddidan berth
37 A neitio hyd pan yttoedd
38 mewn perth ddv nid o'm parth oedd
39 Gan faint y trwst grwydr ar
lwydrew
40 Dwy ffilog y tayog tew
41 Tygessym ddwyn ddevgwyn ddig
42 Trist oeddem mai trwst eiddig
43 Golesc frys rhwng llys a llwyn
44 Gwylltrvthr peisfrych gwahelldrwyn
45 Treiddia yn ffrom wrth dommawg
46 Trwyddew tail a rhew y rhawg
47 Arvthr i chwedl hoccedlaes
48 Aml ger buarth dail maes
49 Ni wyr yn llonn ar fron fry
50 Na llais aml na lles ymy
51 Na cherdded medd gwych ordderch
52 [112r] Drwy nenn y llwyn er mwyn merch
53 Ond arwain dvrwaith meinffrom
54 Y ber dv a bawr y dom
55 Yr edn brych ar adain brvdd
56 bribiwr ai fagl heb rybyvdd
57 Ys caffo tro treigl gochfrych
58 Bolltod brathff mab alltvd brych
Da. ap Glm.